Nos Iau 24 Mehefin 2010 ymunodd Gethin Jones, Cyflwynydd Teledu â myfyrwyr, staff a gwesteion i ddathlu llwyddiannau rhagorol dysgwyr Coleg Glannau Dyfrdwy.

Cyflwynwyd gwobrau i fyfyrwyr o wahanol adrannau o'r coleg a bu iddynt hefyd dderbyn gwobrau a noddwyd gan fusnesau i gydnabod eu perfformiad rhagorol yn ystod eu cyrsiau.
O safonau uchel o gyflawniad academaidd i lwyddo mewn amgylchiadau anodd iawn, neu ddychwelyd i'r coleg er mwyn newid cyfeiriad, roedd gan bob myfyriwr eu stori lwyddiant unigol i’w dweud.
Fideo
Yr Enillwyr
Clare Morris
Mae Clare wedi ennill graddau uchel yn gyson tra’n
gwneud ei Lefel A yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.
Mae hi bob amser yn meddwl am eraill ac wedi
datblygu perthnasau gweithio gwych gyda’i
chyfoedion.
Alan Jones
Mae Alan wedi gwneud nifer o gyrsiau Celf a Dylunio ac wedi datblygu talent unigryw ar gyfer ffotograffiaeth. Mae’n benderfynol o ddilyn gyrfa yn y maes yma a bydd yn dechrau astudio am radd ym mis Medi.
Noddir gan Seawhite of Brighton
Robert Williams
Yn fyfyriwr gydag agwedd gadarnhaol at fywyd ac ymarweddiad cyfeillgar mae Robert wedi cwblhau cyfres o gymwysterau. Mae wedi tyfu mewn hyder yn fawr iawn, ac mae’n gobeithio symud ymlaen i swydd ym mis Medi.
Noddir gan OCR Cymru
Sara Barrows
Yn hynod frwdfrydig ac ymrwymedig, mae Sara
wedi dychwelyd i addysg ar ôl egwyl. Mae’n
hunan-gymhelliol ac wedi cynhyrchu gwaith o safon
uchel iawn trwy gydol ei hamser yng Ngholeg
Glannau Dyfrdwy. Flwyddyn nesaf bydd hi’n astudio
ar gyfer gradd mewn Astudiaethau Amgylcheddol.
Noddir gan Witter Towbars
Chyfathrebu y Flwyddyn
George Bithell
Er gwaethaf profi anawsterau eleni nid yw George
eto wedi methu dyddiad cau nac wedi cynhyrchu
gwaith islaw’r safon. Mae ganddo synnwyr
cyffredin da ac mae’n fodel rôl i’w gyd-fyfyrwyr.
Mae wedi gosod ei feddwl ar yrfa yn y diwydiant
Technoleg Gwybodaeth.
Noddir gan Advanced Moving Solutions
y Flwyddyn
Natalie Haime
Mae ymdrech, ymrwymiad ac agwedd Natalie wedi
bod yn rhagorol tra’n astudio yng Ngholeg
Glannau Dyfrdwy. Mae wedi llwyddo i gael
rhagoriaethau ym mron pob uned ac mae hi hefyd
ar y ffordd i ennill Gwobr Aur Dug Caeredin.
Noddir gan The Army
Gemma Pemberton
Mae Gemma yn fyfyrwraig sy’n mynd y filltir ychwanegol. Rhagorodd ar yr oriau sydd eu hangen i ennill Gwobr Rhagoriaeth Gwirfoddolwyr y Mileniwm ac mae bob amser yn barod i helpu eraill. Yn aelod poblogaidd o’r cwrs, flwyddyn nesaf bydd yn dechrau ar radd dysgu ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.
Noddir gan Lifestyle Fitness
Therapïau Holistig y Flwyddyn
Michael Southern
Mae Michael wedi gorfod gweithio yn galetach nag
eraill er mwyn ennill ei gymwysterau. Mae wedi
dod yn bell ers cyrraedd y Coleg ac mae’n
enghraifft wych o ddyfalbarhad ac ymrwymiad. Arôl gadael mae Mike yn gobeithio defnyddio ei
sgiliau trwy weithio ar longau mordaith.
Noddir gan Goldwell
Ailie Greer
Gweithio’n galed, llon a phositif dyma rai o’r geiriau
a ddefnyddia’r tiwtoriaid i ddisgrifio Ailie. Yn
bryderus ar ddechrau’r cwrs mae wedi datblygu ei
sgiliau cymdeithasol a hyder. Mae tiwtoriaid y cwrs
Arlwyo prif lif yn edrych ymlaen at ei chroesawu
ym mis Medi.
Noddir gan Rotary Club of Deeside
Flwyddyn
Gareth Stevenson
Roedd Gareth i fod i gael gyrfa mewn Peirianneg
ond cymerodd y penderfyniad dewr i ailhyfforddi.
Nid yw wedi edrych nôl. Diolch i brofiad gwaith
mewn bwytai o ansawdd uchel a chymryd rhan
mewn nifer o gystadlaethau mae gan Gareth
ddyfodol disglair yn y diwydiant.
Noddir gan Chester Racecourse
Flwyddyn
Sophie Edwards
Mae Sophie yn fyfyrwraig sydd yn gweithio yn galed
ac sy’n boblogaidd gydag aelodau eraill o’r dosbarth
a thiwtoriaid. Yn fam ifanc, mae Sophie wedi llwyddo
i ymdopi’n dda gyda nifer o’i hymrwymiadau ac yn
cynhyrchu gwaith o safon rhagoriaeth. Ym mis Medi
bydd Sophie’n symud ymlaen i addysg uwch ym
Mhrifysgol Caer.
Noddir gan Wockhardt Ltd
Athrawon y Flwyddyn
Belinda Cain
Mae Belinda yn fyfyrwraig Mynediad y mae pawb yn ei hoffi. Mae’n cefnogi a helpu aelodau eraill o’i dosbarth ac yn benderfynol o symud ymlaen a’i dysgu. Diolch i’w hagwedd a’i ethig gwaith mae’r grŵp cyfan wedi gwella. Bydd Belinda yn dechrau ar gwrs gradd mewn Cymdeithaseg ym mis Medi..
Noddir gan Agored Cymru
Flwyddyn
Mark Blakemore
Pedair blynedd yn ôl penderfynodd Mark gymryd y cam dewr i fynd i’r afael â’r problemau yr oedd ganddo gyda rhifedd a llythrennedd. Ar y cychwyn roedd yn aelod distaw o’r dosbarth oedd byth yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ond erbyn hyn mae ei lefelau hyder wedi codi. Mae nawr yn hyrwyddwr addysg oedolion ac yn annog eraill i wella eu Mathemateg a Saesneg.
Noddir gan John Dale Limited
Flwyddyn
Demi Griffiths
Mae Demi yn fyfyrwraig ddiymhongar oedd wedi
rhyfeddu clywed ei bod wedi ennill y wobr yma.
Yn enillydd teilwng, mae wedi mwynhau nifer o
leoliadau llwyddiannus gyda meithrinfeydd lleol.
Mae ei hunan-gred wedi tyfu ac mae ar ei ffordd i
yrfa yn gweithio gyda phlant.
Noddir gan Little Stars Day Nursery
Cymdeithasol y Flwyddyn
Nathan Meech
Yn ddysgwr ffocysedig, hunan-gymhelliol ac
ymrwymedig, mae Nathan yn benderfynol o gael
gyrfa fel therapydd galwedigaethol. Gan drefnu
profiad gwaith gyda dau fwrdd iechyd lleol, mae wedi
datblygu cysylltiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol.
Nid yw Nathan byth yn rhoi llai na’i orau ac mae’n
cymell eraill yn y dosbarth.
Noddir gan Barchester Health Care
Adwerthu y Flwyddyn
Ian Jones
Yn weithiwr ymateb rhanbarthol gyda’r sefydliad elusennol Scope, mae Ian wedi defnyddio’r sgiliau y mae wedi ei ddysgu ar ei brentisiaeth i elwa cannoedd o bobl. Mae’n derbyn y wobr yma am ei agwedd benderfynol a’i wasanaeth cwsmer eithriadol. Mae ei diwtoriaid yn cytuno ei fod yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n ei gyfarfod.
Noddir gan Beaufort Park Hotel
Ryan Hodson
Mae Ryan wedi cymryd mantais lawn o’r cyfleoedd
a gyflwynwyd iddo ar y cwrs Skill Build. Ar ôl bod
yn bryderus iawn ar ddechrau’r cwrs mae wedi
dod yn bell ac wedi mwynhau lleoliad estynedig
gyda thîm Ystadau a Chyfleusterau’r Coleg.
Noddir gan Peerless Gas Control
Cheffyleg y Flwyddyn
Danielle Owen
Mae Danielle yn fyfyrwraig sy’n angerddol am
anifeiliaid. Gymaint fel ei bod wedi gadael gartref
er mwyn dilyn ei chwrs mewn Gofal Anifeiliaid. Yn
ogystal â chynorthwyo a chefnogi eraill yn y grŵp
mae’n awyddus am wybodaeth ac wedi ennill
rhagoriaethau yn gyson.
Noddir gan Caerwys Veterinary Surgery
Garddwriaeth y Flwyddyn
Ann Cheers
Trwy archwilio cyfleoedd y tu allan i’w
hastudiaethau mae Ann wedi datblygu’n Osodwr
Blodau addawol. Mae’n frwdfrydig ac ymroddedig
i’w chrefft. Yn dilyn profiad gwaith llwyddiannus
derbyniodd ganmoliaeth gan un o osodwyr blodau
mwyaf enwog y DG.
Noddir gan SL Parry Accountancy Services
Gwresogi ac Awyru y Flwyddyn
Michael Evans
Yn Drydanwr uchelgeisiol mae Michael wedi
cwblhau ei holl waith i lefel eithriadol. Mae wedi
arddangos rhinweddau arweinyddiaeth ar y cwrs
ac mae’n gobeithio cael prentisiaeth gyda chwmni
lleol yn y dyfodol agos.
Noddir gan The Hand and Power Tool Centre
Edryd Davies
Mae Edryd bob amser yn ceisio gwella safon ei
waith Saer ac Asiedydd, sydd eisoes yn rhagorol.
Mae ganddo ddawn ar gyfer y pwnc ac mae eisiau
mynd ymlaen i wneud cymhwyster crefft uwch.
Noddir gan Huws Gray
Robert Beswick
Yn brentis blwyddyn gyntaf gyda Airbus mae
Robert yn arwain y ffordd mewn cynhyrchu gwaith
ymarferol a damcaniaethol o safon eithriadol. Mae
bob amser yn barod i helpu eraill yn ei grŵp ac
mae wedi cynrychioli ei gyflogwr ar nifer o
brosiectau.
Noddir gan Airbus in the UK
Flwyddyn
George Benson
Yn fyfyriwr Lefel A yn wreiddiol, penderfynodd
George ail ystyried ei yrfa a dechreuodd y cwrs
Perfformio Gweithrediadau Peirianneg. Yn fuan
dangosodd fod ganddo dalent a photensial. Ar ôl
creu portffolio rhagorol mae George nawr yn
gobeithio ennill prentisiaeth.
Noddir gan Merseyside Metal
Weldio y Flwyddyn
David Martin
Mae David yn brentis Ffabrigo a Weldio gyda’r
cwmni lleol DRB. Mae’n enillydd teilwng oherwydd
ei waith, agwedd a chwest cyson am
berffeithrwydd. Mae ei diwtoriaid yn edrych
ymlaen at ei groesawu nôl ym mis Medi fel Prentis
Modern Uwch.
Noddir gan Proweld
Joe Griffiths
Mae Joe yn brentis Trin Cerbydau dymunol, boneddigaidd a llon gyda dyfodol disglair o’i flaen. Fodd bynnag nid fel hyn oedd hi. Mae Joe yn fyfyriwr sydd wedi troi dalen newydd ac wedi cael dechrau newydd. Ar ôl y newid yma dangosodd Joe wir dalent mewn peirianneg a chynhyrchodd waith rhagorol. Mae hefyd wedi annog a helpu’r rhai o’i amgylch.
Noddir gan Snap-on
Myfyriwr Bagloriaeth Cymru y
Flwyddyn
Scott Garwell
Nid yn unig y mae Scott yn Fyfyriwr Bagloriaeth Cymru
y Flwyddyn Coleg Glannau Dyfrdwy, llynedd enillodd y
teitl ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n fyfyriwr sydd wedi
achub ar gyfleoedd gan gymryd rhan mewn tripiau
addysgol, prosiectau ymchwil yn ogystal â bod yn
Llywodraethwr ac yn Llywydd y Myfyrwyr.
Noddir gan WJEC
y Flwyddyn
Jack Sargeant
Mae Jack yn fyfyriwr yn ysgol uwchradd Cei Conna ac mae wedi mynychu Coleg Glannau Dyfrdwy fel rhan o fenter Llwybrau Dysgu yn y Gweithle 14-19 Llywodraeth Cynulliad Cymru a SEMTA. Mae’n ymdrin â phroblemau yn gadarnhaol, rhesymegol a threfnus. Mae gan Jack yrfa addawol o’i flaen yn y diwydiant Peirianneg.
Noddir gan Flintshire 14-19 Learning Network
Annibynnol y Flwyddyn
Natalie Griffiths
Ers dod i Goleg Glannau Dyfrdwy mae Natalie wedi
datblygu. Mae wedi cynrychioli’r coleg mewn
cyfarfod gydag Aelodau o’r Cynulliad ac wedi
teithio i Gaerdydd ar nifer o achlysuron. Ym mis
Medi bydd Natalie yn cofrestru ar y cwrs
Blodeuwriaeth prif lif – cyflawniad anhygoel.
Noddir gan John Dale Limited
Sheila Williams
Mae Sheila yn fyfyriwr aeddfed a benderfynodd ddysgu Cymraeg gan fod ganddi gywilydd nad oedd yn gallu siarad yr iaith. Mae’n llawn egni ac yn dod a’r gorau allan o aelodau eraill o’r dosbarth. Mae Sheila yn defnyddio ei sgiliau newydd drwy helpu ei wyrion a’i wyresau gyda’u gwaith cartref Cymraeg.
Noddir gan Welsh for Adults – North Wales Centre
Jasmin Dutton
Mae gan Jasmin, sy’n fyfyrwraig ysgoloriaeth, yrfa pêldroed addawol o’i blaen. Mae’n aelod allweddol o’r sgwad Gymreig ac wedi bod yn ddylanwadol yn llwyddiant tîm pêl-droed merched y coleg. Er gwaethaf hyfforddi rhan fwyaf o nosweithiau’r wythnos mae ei gwaith cwrs o safon uchel ac yn cael ei gyflwyno ar amser.
Noddir gan Queensferry Sports
