Sports

Chwaraeon

Canolfan Athletau Dan Do Gogledd Cymru

Mae Canolfan Athletau Dan Do Gogledd Cymru yn gyfleuster chwaraeon a agorwyd gan Colin Jackson CBE yn 2005. Mae ar gael nid yn unig i’n myfyrwyr ond hefyd i oedolion a phlant o bob oedran. Mae’r cyfleuster yn cynnwys:

Oriau Agor

9yb tan 9:30yh
9yb tan 9:30yh

Dydd Sadwrn a Dydd Suly
9:30yb tan 5.30yp

Mynediad olaf 30 munud cyn cau.

Taith 360°

Tour


Mae'r llawr arbenigol sydd yn y ganolfan athletau, y cyntaf o’i fath yn y DG, yn ddigon cryf ar gyfer yr holl weithgareddau aml-chwaraeon ac yn gallu cymryd sbeics 6mm, sy'n hanfodol i hyfforddiant athletau o ansawdd. Gall athletwyr hyfforddi trwy gydol y flwyddyn mewn amgylchedd diogel a rheoledig. Byddwn yn cynnig rhaglen strwythuredig o hyfforddiant i blant ysgol ac yn cefnogi mentrau sydd wedi eu hanelu at gynyddu cyfranogiad.

Mae hyblygrwydd y ddwy neuadd yn caniatáu i'r cyfleuster chwaraeon gynnal cystadlaethau a digwyddiadau mawr.

Gweld ein cyfraddau llogi  

Gweithgareddau, Cyrsiau a Chlybiau

Mae cyrsiau athletau a chyflyru ar gyfer yr ifanc yn amrediad newydd o weithgareddau athletau a gynlluniwyd i gyflwyno a datblygu sgiliau, yn ogystal â gwella cryfder a chyflyru cyffredinol.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’r gweithgareddau isod ffoniwch Donna Welsh ar 01244 834546.

Jymtots

Sesiwn Gymnasteg Pob Pythefnos
Cost: £3, Oed : 1 – 3oed
Ffoniwch Donna Welsh ar 01244 834546 i archebu a chael mwy o wybodaeth.

Gwersyll Chwaraeon

Mae'r gwersyll chwaraeon yn rhedeg ar Ddydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau trwy gydol gwyliau'r ysgol. Mae'n rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon yn cynnwys Athletau, Tri-Golff, Tennis a Phêl-droed.

Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy

Dydd Llun a Dydd Mercher
Amser: 7yh – 9yh
Oed: 9 a hyn

Anabl??

Rydym yn croesawu pobl gydag anableddau yn ein holl gyfleusterau chwaraeon; fe fyddwch mewn cwmni da! Mae gan y ganolfan chwaraeon nifer o ddefnyddwyr anabl yn cynnwys athletwyr fel:

Cynhelir Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy i’r anabl ar nosweithiau Mercher o 6.00yh - 7.00yh a’r clwb pêl-droed i’r anabl ar nosweithiau Mercher o 5.00yh – 6.00yh

Mae Coleg Pengwern (ar gyfer myfyrwyr gydag anghenion ychwanegol) hefyd yn defnyddio’r ganolfan bob wythnos fel rhan o’u gweithgareddau cwricwlwm a chaiff y myfyrwyr eu hyfforddi gan y Swyddog Datblygu Athletau.

 

MWY

 

CYSYLLTWCH Â

Os hoffech gael manylion ynglyn â’r clybiau yma neu logi cyfleusterau, cysylltwch â derbynfa chwaraeon Coleg Glannau Dyfrdwy ar:

01244 834546

E-bost: sportsbookings@deeside.ac.uk.

 

LLWYTHO I LAWR

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


© Coleg Glannau Dyfrdwy

Ffordd Celstryn, Cei Conna

Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4BR

 

Ffôn: 01244 831531 | E-bost: ymholiadau@deeside.ac.uk