School Leavers

Ysgoloriaethau Chwaraeon

Sports ScholarshipsYdych chi’n cynrychioli eich sir neu wlad mewn chwaraeon?

Mae Ysgoloriaethau Chwaraeon werth £1,000 y flwyddyn am hyd at 2 flynedd, telir mewn rhan-daliadau.

Maent ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio unrhyw bwnc, nid dim ond chwaraeon ac ar gyfer y rhai hynny sydd a gallu gwirioneddol mewn chwaraeon ac sydd ag anrhydeddau mewn o leiaf un chwaraeon ar lefel sirol neu genedlaethol. Bydd angen i chi hefyd fod ag adroddiad ysgol ardderchog.

Mae’r ysgoloriaeth wedi ei gynllunio i gefnogi myfyrwyr a darparu cymorth ariannol tuag at gostau cyflawni eich potensial chwaraeon. Er enghraifft, fe all myfyrwyr ddefnyddio’r arian ar gyfer cludiant i sesiynau/cystadlaethau; prynu offer o ansawdd a/neu dalu am hyfforddiant arbenigol.

Sut mae gwneud cais?

GWNEWCH YN SIWR EICH BOD YN ANFON EICH CAIS I’R PENNAETH

Byddwn yn ysgrifennu atoch i gydnabod ein bod wedi derbyn eich cais ac yn cadarnhau a ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad. Bydd cyfweliadau yn cymryd lle o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau.

Y dyddiad cau yw Dydd Iau 1 Mai 2010.

 

More

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


© Coleg Glannau Dyfrdwy

Ffordd Celstryn, Cei Conna

Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4BR

 

Ffôn: 01244 831531 | E-bost: ymholiadau@deeside.ac.uk