
- 01244 831531
- E-bost
- Neges ar-lein
Cyfoethogi
Ehangwch eich profiad coleg
Mae’r rhaglen gyfoethogi ar gael i nifer o fyfyrwyr llawn amser ac wedi ei anelu i ehangu eich profiad yn y coleg drwy roi cyfle i chi ddysgu y tu allan i’ch prif gwrs arbenigol. Byddwch yn cael cyfle i weithio gyda myfyrwyr o adrannau eraill o’r coleg. Mae sesiynau cyfoethogi yn cymryd lle ar nosweithiau Mawrth a phrynhawniau Mercher ac yn cynnwys:
Cyrsiau byr neu gyrsiau hirach sy’n para am flwyddyn gyfan a chlybiau. Nid oes rhaid i’r rhain fod yn gysylltiedig â’ch prif gwrs ac maent yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgil neu ddiddordeb newydd. Gall y sgiliau ychwanegol yma eich helpu i ganfod gwaith rhan-amser neu wella eich ceisiadau ar gyfer Addysg Uwch.
Amrediad eang o weithgareddau chwaraeon pob prynhawn Mercher yn cynnwys gemau timau’r coleg mewn nifer o chwaraeon. Yn ystod yr wythnos sefydlu byddwn yn eich gwahodd i ddewis un o’r chwaraeon a’r lefel yr hoffech chi gymryd rhan.
Gweithgareddau timau chwaraeon y coleg
Enghreifftiau o gyrsiau
Cyrsiau Byr
Cymorth Cyntaf Sylfaenol, Gofalu am fabanod newydd anedig, Gwneud cartwnau, Cyswlltdysgu, Bydwreigiaeth, Celf Ewinedd, Iaith Arwyddion, Crefft Siwgr, Cymraeg
Gweithgareddau Chwaraeon
Athletau, Badminton, Pêl-fasged, Pen-ôl, coesau a bol, Pêl-droed, Gweithgareddau campfa Lifestyle Fitness, Pêl –rwyd, Rygbi, Dawns Drefol
Clybiau
Ffilm, Gitâr, Newyddiadura
Gwirfoddoli
Gwobr Dug Caeredin, Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm.

