
- 01244 831531
- E-bost
- Neges ar-lein
Sgiliau Astudio
Sgiliau Astudio
Mae cefnogaeth ar gael i’r holl fyfyrwyr a gall gynnwys cymorth gyda thechnegau adolygu, gwella eich mathemateg neu sillafu, cynllunio ac ysgrifennu aseiniadau neu weithio’n annibynnol.
Fe all rhai myfyrwyr fod angen cymorth ar gyfer anghenion penodol fel dyslecsia a gallwn ddarparu offer a chefnogaeth arbenigol ar gyfer hyn.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth ac offer i’r rhai hynny gydag anableddau corfforol, nam ar y golwg neu’r clyw neu anawsterau dysgu cyffredinol. Mae cymorth ar gael i’r rhai sy’n siarad ieithoedd eraill hefyd.
Gallwn gynnig:
- Asesiadau i adnabod eich anghenion cefnogi
- Tiwtorialau unigol
- Technoleg a meddalwedd cynorthwyol
- Cefnogaeth ar y cwrs
Cymorth i’r Anabl
Gallwn helpu os oes gennych anabledd corfforol neu nam ar y golwg neu’r clyw. Mae gennym amrediad o offer arbenigol a gall ein staff hyfforddedig gynnig cefnogaeth a chyngor cyfeillgar.
Os oes gennych unrhyw anghenion penodol neu anableddau rhowch wybod i ni. Byddwn yn trin eich ymholiad yn gyfrinachol a byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn rhannu manylion ynglyn â’ch anghenion cefnogi gyda thimau arbenigol o fewn y coleg.
Os oes arnoch angen cymorth siaradwch â’ch tiwtor, ymgynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr (ffoniwch 01244 834511 neu minicom - 01244 834529), neu anfonwch e-bost ymholiadau@deeside.ac.uk
