About Us

Cefnogaeth i Fyfyrwyr

Materion ariannol – Pa gymorth ariannol sydd ar gael?

Financial Support

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Os ydych yn 16-18 oed yn byw yng Nghymru neu Loegr ac yn astudio’n llawn amser gallech gael hyd at £30* yr wythnos am ddod i’r Coleg! Gallech hefyd, os gwnewch chi fynychu eich holl ddosbarthiadau, a gwneud eich aseiniadau/arholiadau gael taliad bonws. Bydd myfyrwyr sy’n dod o deuluoedd gydag incwm o £31,580* neu lai’r flwyddyn yn derbyn LCA. Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01244 834511 neu e-bostio ymholiadau@deeside.ac.uk i gael pecyn cais. *ffigyrau ar gyfer 2008-09

Cronfa Cefnogi Dysgwyr

Angen cymorth gyda chostau iwnifform, offer, tripiau neu ofal plant? Mae Cronfa Cefnogi Dysgwyr yn gronfa sy’n rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr sy’n byw mewn caledi gwirioneddol. Gallwch ddefnyddio’r arian i dalu am bethau fel offer (cyllyll arlwyo, olew harddwch, paent, iwnifform ayb), costau gofal plant a theithiau addysgol. Manylion pellach ar gael gan Gwasanaethau Myfyrwyr. Sylwer - gan mai ychydig o arian sydd ar gael yn y gronfa hon efallai na fydd modd i ni helpu pawb fydd yn gwneud cais.

Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC)

Os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 18+ oed, gallwch wneud cais am Grant Dysgu’r Cynulliad. Mae Grant Dysgu’r Cynulliad, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi arian ychwanegol i fyfyrwyr a fyddai fel arall efallai yn ei chael hi’n anodd fforddio dilyn cwrs addysg bellach neu uwch.

Bydd rhaid cynnal prawf modd ar bawb fydd yn gwneud cais am GDC. I fod yn gymwys rhaid i’ch incwm sylfaenol chi neu’ch teulu fod yn llai na £17,251* y flwyddyn – gallwch dderbyn rhwng £450* a £1,500* am y flwyddyn *ffigyrau ar gyfer 2008-09

Benthyciad Datblygu Gyrfa

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01244 834511, e-bostiwch ymholiadau@deeside.ac.uk neu ewch i www.direct.gov.uk/cdl.

 

MWY

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


© Coleg Glannau Dyfrdwy

Ffordd Celstryn, Cei Conna

Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4BR

 

Ffôn: 01244 831531 | E-bost: ymholiadau@deeside.ac.uk