
- 01244 831531
- E-bost
- Neges ar-lein
Rhieni/Gwarcheidwaid
Yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, rydym yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau sydd gennym gyda rhieni a gwarcheidwaid yn fawr iawn ac yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â chi, er mwyn helpu eich mab neu ferch i gyflawni eu nodau addysgol.
- Byddwn yn cysylltu â rhieni a gwarcheidwaid ar adegau gwahanol yn ystod y cwrs gydag adborth ynglyn â chynnydd eich mab neu ferch yn cynnwys meysydd pryder fel presenoldeb a phrydlondeb.
- Byddwn hefyd yn trefnu nosweithiau rhieni i’ch darparu gydag adborth
Fodd bynnag cofiwch fod croeso i chi gysylltu â thiwtor cwrs eich mab neu ferch ar unrhyw adeg os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eu cynnydd neu bryderon ynghylch unrhyw fater arall.
Er mwyn helpu myfyrwyr i gyflawni eu nodau, rydym yn darparu dysgu ardderchog, yr adnoddau diweddaraf a chefnogaeth dysgu o’r ansawdd uchaf. Mae eu llwyddiant yn dibynnu’n fawr ar eu hymrwymiad, eu hagwedd at astudio a’u cymhelliant ac rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i’w cefnogi a’u hannog i gymryd eu hastudiaethau o ddifrif, i fynychu’n rheolaidd, i fod yn brydlon ac i roi gwaith i mewn ar amser.
Hoffem hefyd eich sicrhau y bydd myfyrwyr yn ystod eu hamser yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy yn cael cefnogaeth gan ein tîm o staff ardderchog ac ymrwymedig, nifer ohonynt wedi eu hyfforddi’n arbennig i helpu gyda phroblemau penodol y gall pobl ifanc eu profi tra’n astudio.
Llwythwch i lawr ein Canllaw i Rieni a Gwarcheidwaid er mwyn cael mwy o wybodaeth am:
- Absenoldeb
- Disgyblu
- Wythnosau cyntaf y tymor
- System diwtorial y coleg
- Cymorth ariannol i fyfyrwyr
- Teithio i/o’r coleg
- Myfyrwyr gydag anableddau a/neu anawsterau dysgu
- Bwlio
