About Us

Rhieni/Gwarcheidwaid

Disgyblu

Rydym eisiau i bawb fwynhau eu hamser yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ac rydym yn disgwyl ymddygiad da gan yr holl fyfyrwyr yn cynnwys parch tuag at eraill. Bydd myfyrwyr yn derbyn Llawlyfr sy’n amlinellu ein prif ddisgwyliadau o ran ymddygiad, gwaith cwrs, presenoldeb a phrydlondeb. Mae Cod Ymddygiad Myfyrwyr yn egluro ein rheolau a rheoliadau.

Mae gennym Drefn Ddisgyblu ffurfiol y bydd ein staff yn ei egluro i fyfyrwyr. Bydd staff yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw faterion pryder drwy roi “Nodyn Pryder” a bydd hyn yn helpu i osod allan cynlluniau gweithredu er mwyn gwella eu perfformiad. Os bydd yr ymdrechion yma yn methu ar ôl sawl ymgais yna bydd y drefn ddisgyblu yn dilyn (manylion ar gael yn Llawlyfr y Myfyrwyr).

Lle bo’n briodol, byddwn yn cynnwys rhieni yn y Broses Ddisgyblu; byddwn fel arfer yn gwneud hyn os oes problemau ymddygiad cyson a/neu ddigwyddiadau difrifol.

 

 

Mwy

 

Llwytho i Lawr

 

 

 

 

 

 

 


© Coleg Glannau Dyfrdwy

Ffordd Celstryn, Cei Conna

Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4BR

 

Ffôn: 01244 831531 | E-bost: ymholiadau@deeside.ac.uk