
- 01244 831531
- E-bost
- Neges ar-lein
Adroddiad Blynyddol 2009
"Wrth i ni edrych yn ôl ar 2009, rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant eithriadol ein myfyrwyr a’n gweithwyr.
Mae ein tîm yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, sy’n arweinwyr yn y sector, wedi dod â dau goleg ynghyd yn llwyddiannus yn dilyn yr uno y 1af Awst 2009, ac mae gennym nawr ddau brif gampws – sef Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain. Rydym yn creu coleg cryfach a fydd yn cynnig addysgu a dysgu rhagorol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru, wrth i ni barhau i ddatblygu partneriaethau ychwanegol gyda cholegau, ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill.
Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a chadernid ariannol hefyd o’r pwys mwyaf o ran sicrhau ein bod yn cynnal ein henw da o fod yn goleg sy’n arwain y sector. Rydym yn llwyddo oherwydd ymroddiad ein gweithwyr, ymrwymiad ein myfyrwyr ac uchelgais a chefnogaeth ein Corff Llywodraethol. Rwy’n hyderus wrth i ni edrych yn ôl ar 2009 y byddwn yn adeiladu ar sail y llwyddiant hwn yn 2010."
David.B.Jones
Prifathro/Prif Weithredwr
Llwythwch ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2009 i lawr mewn fformat PDF:
- Uchafbwyntiau 2009
- Coleg gwyrddach
- Cyflawniadau Myfyrwyr
- Gwella ystâd y coleg
- Gwella ystâd y coleg
- Partneriaethau newydd
- Partneriaethau newydd

